Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2024
Amser: 09.00 - 09.25
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. Y Dirprwy Lywydd oedd yn cadeirio’r cyfarfod.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024
· Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 (5 munud)
· Dadl: Yr Holodomor (60 munud)
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024 -
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Banc Datblygu Cymru (60 Munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) Etc. (Cymru) at y Pwyllgor Cyllid er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol, ac ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymestyn y terfynau amser adrodd ar gyfer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol canlynol tan 10 Ionawr 2025:
Bu'r Pwyllgor Busnes hefyd yn trafod gwerth pennu terfynau amser cychwynnol ar gyfer adrodd ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol i gyd-fynd â'r dyddiad craffu terfynol tebygol yn Nhŷ cyntaf Senedd y DU y cyflwynir y Bil perthnasol iddo, fel y cynigir gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru yn ystyried ymhellach pa mor ymarferol yw mabwysiadu'r dull hwn.
Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Cyllid i Ddatganiad Cadeirydd Pwyllgor gael ei drefnu yn y Cyfarfod Llawn i adrodd yn ôl ar Adolygiad y Pwyllgor o'r gweithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau a gynhaliwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y Rheolwyr Busnes o'r farn y byddai dadl yn fwy priodol a chytunwyd i ymateb i'r Pwyllgor Cyllid i ofyn iddo ystyried amserlennu dadl yn hytrach.
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar gyfer